Argymhelliad 1. Mae'r Pwyllgor yn argymell, yn unol â'r materion a godwyd yn ei lythyrau at y Prif Weinidog ar 16 Tachwedd a 19 Rhagfyr 2022, fod y Gweinidog yn darparu ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn, cyn y ddadl Cyfnod 1.
|
Rwyf wedi cytuno i ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r Pwyllgor cyn dadl Cyfnod 1 ar y Bil hwn.
Fodd bynnag, hoffwn nodi fel yr amlinellwyd gan Brif Weinidog Cymru yn ei lythyr i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr, nid yw bob amser yn ymarferol i Weinidogion wneud hyn cyn dadl Cyfnod 1 pob Bil.
|
Argymhelliad 2. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu dadansoddiad o'r costau sydd wedi'u cynnwys yn Opsiwn 3 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n ymwneud â chyllid cynllun datblygu gwledig, ac y caiff y wybodaeth hon ei chynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2. |
Derbyn
Roedd y Dadansoddiad Cost a Budd o gymorth yn y dyfodol yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) yn hoelio sylw ar gostau a buddion darparu cymorth refeniw yn uniongyrchol i ffermwyr. O dan y system bresennol, y ddau beth sy’n cyfrannu fwyaf at hyn yw Cynllun y Taliad Sylfaenol a Glastir, sy’n gyfanswm o ryw £278 miliwn y flwyddyn. Roedd costau a buddion elfennau eraill o gymorth (megis Cyswllt Ffermio a’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm) hefyd wedi’u cynnwys.
Nid ydym yn cynnig arallgyfeirio cymorth ariannol oddi wrth ffermwyr. Nid yw’r £278 miliwn yn rhagfynegiad nac yn warant o lefelau cyllid yn y dyfodol, bydd yn dibynnu ar setliadau ariannol Trysorlys Ei Fawrhydi a phroses cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n anodd bod yn sicr ynghylch faint yn union bydd y gyllideb yn y dyfodol ar gyfer cymorth amaethyddol y tu hwnt i dymor Senedd hon y DU.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad i ychwanegu rhagor o wybodaeth yn ymwneud ag elfennau’r Rhaglen Datblygu Gwledig nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, er gwybodaeth yn dilyn Cyfnod 2.
|
Argymhelliad 3. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ymgymryd â gwaith modelu i amcangyfrif cost flynyddol y cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy'n dibynnu ar y nifer wahanol sy'n cymryd rhan yn ôl mathau gwahanol o ffermydd, ac y caiff y wybodaeth hon ei chynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2.
|
Derbyn mewn Egwyddor
Mae’r RIA yn ymdrin â’r holl ddarpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru). Nid yw’n RIA ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Mae Opsiwn 3 o’r Dadansoddiad Cost a Budd ar gyfer cymorth yn y dyfodol yn hoelio sylw ar gostau a buddion deddfwriaeth i gyflwyno cymorth sy’n gyson â’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM). Nid yw’r Bil yn diffinio mecanweithiau cyflenwi cynlluniau yn y dyfodol.
Mae’r SFS arfaethedig wrthi o hyd yn cael ei ddatblygu. Rydym yn ddiweddar wedi cwblhau’r arolwg, y gweithdai a’r cyfweliadau a oedd ail ran y broses cyd-ddylunio’r SFS a bwriedir cyhoeddi adroddiad llawn ddechrau 2023. Bydd y gwaith modelu amgylcheddol ac economaidd gan fy swyddogion hefyd yn llywio dyluniad y cynllun arfaethedig terfynol.
Rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori ar y cynllun arfaethedig terfynol ddiwedd y flwyddyn. Byddwn yn cyhoeddi ystod o dystiolaeth yn ymwneud â’n hasesiad o’r cynllun a’r allbynnau y disgwyliwn eu cyflawni. Ni fydd yr amserlenni arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad a gwaith modelu’r SFS yn caniatáu inni gynnwys gwybodaeth ychwanegol mewn RIA diwygiedig ar ôl trafodion Cyfnod 2.
|
Argymhelliad 4. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ailasesu'r costau heb eu meintioli, ac yn defnyddio profiad blaenorol i ddarparu dadansoddiad sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o gostau, ac y caiff y wybodaeth hon ei chynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2. |
Derbyn mewn Egwyddor
Lle bo’n bosibl, mae’r RIA wedi meintioli’r costau disgwyliedig sy’n gysylltiedig â’r darpariaethau yn y Bil.
I rai o'r pwerau sy'n cael eu cymryd yn y Bil nid yw'n bosibl mesur costau, er enghraifft, ni allwn wybod pryd y gallai argyfwng ddigwydd, nac ar ba raddfa, felly ni allwn gynllunio ar gyfer yr holl gostau disgwyliedig. Ceir esboniad llawnach isod.
Ymyrryd mewn Marchnadoedd Amaethyddol: Ni wyddys sut mae cyfrifo costau ar gyfer y cynnig hwn oherwydd mai natur y pwerau arfaethedig hyn yw ymateb mewn argyfwng. Nodir dwy enghraifft o gynlluniau ymyrryd blaenorol yn y farchnad isod, ond efallai nad yw'r rhain yn adlewyrchu cost unrhyw gynlluniau yn y dyfodol.
Yn 2020, lansiwyd cynllun i gefnogi'r sector llaeth pan orfododd pandemig Covid-19 y sefydliadau lletygarwch i gau. Er i'r cynllun hwn ddefnyddio pwerau dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fe'u defnyddiwyd mewn ffordd debyg i sut y gellid defnyddio'r pwerau arfaethedig. O dan y cynllun hwn, cafodd £1,018,500 ei dalu i ffermwyr llaeth Cymru sydd, o'i addasu ar gyfer chwyddiant, yn cyfateb i £1,182,000 ym mhrisiau 2022.
Yn y cyfnod 2011-2021, lansiwyd dau gynllun ymyrryd mewn argyfwng, er mwyn cefnogi'r sector llaeth. Daeth un ar ffurf cefnogaeth ar draws yr UE yn 2016, a oedd mewn ymateb i galedi a achoswyd gan ddiwedd cwotâu llaeth, gwaharddiad Rwsia ar fewnforion bwyd yr UE a phrisiau olew isel.
Dylid nodi efallai na fydd y cynllun hwn yn adlewyrchu'n uniongyrchol y math o gynllun sy'n bosibl o dan y pwerau arfaethedig ar gyfer amodau eithriadol yn y farchnad yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), gan iddo gael ei gynnig fel set ehangach o gymorth gan yr UE i'r sector llaeth. O dan gynllun 2016, dyrannwyd €30,195,996 i'r DU o dan y mesur ymyrryd mewn argyfwng hwn. Ar y pryd, amcangyfrifodd swyddogion y byddai'r cymorth i Gymru tua £3.2 miliwn. Wedi ei addasu ar gyfer chwyddiant, yn 2022 byddai hyn werth £4 miliwn.
Safonau Marchnata/ Dosbarthu Carcasau: Nid oes unrhyw gostau ariannol rhagweladwy oherwydd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio'r pwerau arfaethedig i ddiwygio safonau marchnata yn y cyfnod amser a bennir. Tenantiaethau: Mae'n anodd iawn amcangyfrif costau a buddion gydag unrhyw sicrwydd gan fod pob cytundeb tenantiaeth amaethyddol yn gontract preifat unigryw ac mae manylion y cynlluniau cymorth ariannol y mae'r darpariaethau'n berthnasol iddynt eto i'w cwblhau. Mae'n anodd amcangyfrif faint o denantiaid amaethyddol all elwa ar y darpariaethau pan gânt eu gweithredu. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld mai gwir fudd y cynnig fydd cymell tenantiaid a landlordiaid i ddod i gytundeb drwy drafod er mwyn osgoi costau datrys anghydfod. Gall tenantiaid sy'n defnyddio'r darpariaethau yn llwyddiannus i amrywio cyfyngiadau (pan gaiff eu gweithredu) dderbyn buddion ariannol uniongyrchol o gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol. Gallai hyn hefyd fod o fudd i'r landlord lle mae cynlluniau'n helpu i gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant fferm drwy wneud y tenant yn fwy cadarn yn ariannol ac yn llai tebygol o fynd i mewn i ôl-ddyledion rhent. Fodd bynnag, mae’n amhosibl ei feintioli oherwydd bydd yn wahanol ym mhob achos. Coedwigaeth: Fel yr amlinellir yn fanylach yn Argymhelliad 6, y costau tebygol a nodwyd yn yr RIA oedd y rhai y gellid eu hadnabod a'u cytuno ar y cyd â'r Grŵp Rhanddeiliaid Darpariaeth Coedwigaeth. Roedden nhw hefyd yn cytuno na ellid mesur nifer o gostau heblaw mewn enghreifftiau unigol fel y nodir yn nhestun yr RIA. Nid oedd dim profiadau blaenorol i dynnu arnynt yn ymwneud â'r pwerau newydd a gynigiwyd.
Cynigir bod amlder achosion a chostau real cysylltiedig yn cael eu harchwilio fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu sydd i'w gynnal o fewn 3 blynedd i gychwyn y pwerau newydd hyn. Bydd hyn yn cynnig gwell dealltwriaeth o weithrediad y pwerau a'r costau sy'n gysylltiedig â hyn.
Ymyrryd Cyhoeddus a Chymorth Storfeydd Preifat:
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio deddfwriaeth Cymorth Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storfeydd Preifat (PSA), gan ddod ag Ymyrraeth Gyhoeddus orfodol i ben a gwneud diwygiadau i sut mae Cymorth Storfeydd Cyhoeddus yn cael ei llywodraethu. Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr ac yn defnyddio pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddf Amaethyddiaeth 2020.
Anaml y defnyddir y cynlluniau hyn sy'n gweithredu'n effeithiol pan gânt eu cymhwyso ar draws marchnad y DU, oherwydd y ffaith nad yw'r fanyleb a/neu drothwyon pris yn cael eu bodloni'n aml.
Mae swyddogion ar hyn o bryd yn asesu'r goblygiadau a lle bo'n briodol byddant yn diweddaru'r RIA.
|
Argymhelliad 5. Mae'r Pwyllgor yn argymell y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y Senedd yn cael cyfle i graffu ar yr Asesiad Effaith Economaidd a chyflwyno ei barn. |
Derbyn
Bydd y dadansoddiad economaidd terfynol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag amrywiaeth o dystiolaeth arall i gefnogi ein cynigion, fel rhan o'r ymgynghoriad arfaethedig yn 2023 ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Rhagwelaf y bydd y gwaith hwn yn amcangyfrif effaith economaidd yr SFS arfaethedig ar sector ffermio Cymru.
Byddaf yn sicrhau bod yr adroddiad terfynol ar ddadansoddiad economaidd y SFS arfaethedig ar gael i'r Senedd i graffu arno.
|
Argymhelliad 6. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith i asesu'r gost i’r sector preifat sy’n ymwneud â choedwigaeth ac yn darparu dadansoddiad sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o gostau, ac y caiff y wybodaeth hon ei chynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2.
|
Gwrthod
Nid yw’n bosibl darparu ystod bosibl o gostau i’w cynnwys yn yr RIA.
Y costau a'r buddion tebygol a nodwyd yn yr RIA oedd y rhai y gellid eu hadnabod ac fe'u cytunwyd ar y cyd â'r Grŵp Rhanddeiliaid Darpariaeth Coedwigaeth a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau coedwigaeth a chadwraeth. Ni ellid meintioli nifer o gostau heblaw mewn achosion enghreifftiol unigol fel y nodir yn yr RIA.
Mae costau heb eu meintioli eisoes yn rhan o batrwm arferol o gynllunio’r ffordd y caiff coedwigoedd eu rheoli, gan ganiatáu hyblygrwydd o amgylch gweithrediadau cwympo coed lle mae rheidrwydd yn codi e.e. stopio oherwydd amodau tir gwlyb anaddas neu bresenoldeb annisgwyl aderyn o dan Atodlen 1 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'r rhain yn unol â Safon Coedwigaeth y DU y mae'n rhaid i bob trwydded torri coed gydymffurfio â nhw.
Bydd yr amodau arfaethedig yn amrywio o amodau llinell sylfaen i amodau penodol neu bwrpasol yn dibynnu ar amgylchiadau'r safle. Nod amodau llinell sylfaen yw ffurfioli cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol arall o fewn y system drwydded cwympo coed. O'r herwydd, ni ragwelir unrhyw gostau ychwanegol i'r sector preifat a fydd yn uwch na'r hyn sy’n bodoli eisoes.
O ran amodau safle-benodol neu bwrpasol lle mae potensial am gostau ychwanegol, mae darparu ystod o gostau ystyrlon yn anodd iawn. Mae hyn oherwydd y tebygolrwydd anhysbys o wahanol achosion yn codi yn dibynnu ar ffactorau amrywiol iawn megis graddfa gweithrediadau, oed a rhywogaethau coed sy’n cael eu cwympo, amodau'r safle unigol a'r sensitifrwydd amgylcheddol sy'n bresennol.
Mae'r ffactorau amrywiol iawn hyn hefyd yn effeithio ar amcangyfrif ystod o gostau i'r sector preifat ar gyfer diwygio/atal/dirymu trwyddedau ac unrhyw iawndal cysylltiedig. Nodir bod disgwyl i achosion o waharddiad a dirymu fod yn brin iawn, fel dewis olaf lle na all cytundeb neu welliant fynd i'r afael â'r mater.
Felly, nid yw'n bosibl darparu ystod bosibl o gostau i'w cynnwys yn yr RIA.
Cynigir bod amlder achosion a chostau real cysylltiedig yn cael eu harchwilio fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu sydd i'w gynnal o fewn 3 blynedd i gychwyn y pwerau newydd hyn. Bydd hyn yn cynnig gwell dealltwriaeth o weithrediad y pwerau hynny a'r costau dan sylw.
|
Argymhelliad 7. Mae'r Pwyllgor yn argymell, fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu, fod y Gweinidog yn meintioli’r manteision sy'n codi o'r Bil. |
Derbyn
Mae’r Bil yn cynnwys set o ofynion monitro ac adrodd cynhwysfawr fel y nodir isod.
Bydd adroddiad ariannol blynyddol ar gynlluniau sydd ar waith o dan y Pŵer i Ddarparu Cymorth yn amlinellu'r holl wariant ariannol o'r holl gymorth a ddarperir yn ystod y cyfnod dan sylw. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am nifer y cynlluniau a'u proffiliau ariannol cyfatebol am y cyfnod.
Mae'n rhaid cwblhau Adroddiad Effaith o bryd i'w gilydd i asesu effaith yr holl gymorth sy'n cael ei ddarparu. Nid yn unig y bydd hyn yn darparu mecanwaith atebolrwydd priodol, mae hefyd yn fodd o fesur yn erbyn y dibenion y rhoddir cymorth ar eu cyfer ac asesiad o'r cyfraniad cefnogol tuag at gyflawni amcanion SLM. Bydd hyn yn ffurfio sylfaen dystiolaeth bwysig a pharhaus ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae gofynion adrodd ar gyfer y cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion SLM, lle bydd dangosyddion a thargedau yn cael eu gosod i fesur cynnydd yn erbyn amcanion SLM.
Coedwigaeth: Bydd fy swyddogion yn cynnal adolygiad ôl-weithredu'r ddeddfwriaeth o fewn 3 blynedd i gychwyn y diwygiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967.
Byddwn ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid i gytuno ar gasgliad o ddata perthnasol ar ôl cychwyn er mwyn monitro effaith y darpariaethau coedwigaeth o fewn y Bil.
|
Argymhelliad 8. Lle y bo'n bosibl, dylid cael synergedd rhwng y system TG bresennol a’r un newydd a gaiff ei datblygu i gefnogi ceisiadau ar-lein a rheoli contractau o dan y Bil. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn rhoi rhagor o fanylion am gostau'r system ar ôl i'r asesiad o’r opsiynau gael ei gwblhau, ac y caiff y wybodaeth hon ei chynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru yn dilyn trafodion Cyfnod 2. |
Derbyn Bydd rhagor o fanylion am y costau datblygu TG yn cael eu darparu mewn fersiwn wedi’i diweddaru o’r RIA yn dilyn trafodion Cyfnod 2. Amcangyfrifon fydd y costau hyn yn seiliedig ar ein hasesiad cychwynnol o opsiynau sy'n ymwneud â chyflwyno cynigion dylunio'r cynllun presennol.
|
Argymhelliad 9. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod proses ymgeisio'r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy i ffermwyr neu fusnesau fferm yn hawdd ei defnyddio ac yn lleihau'r adnoddau sydd eu hangen i wneud cais am y rhaglen drwy gysyniadau megis gwybodaeth wedi’i llenwi ymlaen llaw.
|
Mae sicrhau bod y broses ymgeisio yn hawdd ei defnyddio a bod angen cyn lleied ag adnoddau â phosibl yn egwyddor dylunio bwysig a fydd yn cael ei mabwysiadu lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
|
Argymhelliad 10. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Gweinidog roi eglurhad mewn perthynas â’r £2.8 miliwn mewn costau ychwanegol a ysgwyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a fydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru neu a ddisgwylir i Cyfoeth Naturiol Cymru amsugno'r costau hyn yn ei gyllideb bresennol.
|
Derbyn
Mae'r costau a briodolir i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn amcangyfrifon dangosol ac nid yn rhagfynegiadau. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio gyda CNC i benderfynu pa gostau a fydd yn ymddangos ymhellach ymlaen, os o gwbl, y gellir eu gwireddu o ganlyniad i gynlluniau SLM yn y dyfodol.
Wrth inni ddechrau trosglwyddo i gynlluniau SLM yn y dyfodol, byddaf yn gweithio i sicrhau bod unrhyw gostau yn y dyfodol sy'n deillio o weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn cael eu hystyried yn llawn.
Bydd y gwaith o gefnogi'r ffordd y caiff y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ei gyflawni yn cael ei gytuno rhwng CNC a Llywodraeth Cymru. |